Disgrifiad o’r swydd
Prif Swyddog Gweithredol
Cyflog: £70,000
Lleoliad: Merthyr Tudful (hybrid)
Yn adrodd i: Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr
Swyddogion sy’n adrodd yn uniongyrchol i ddeiliad y swydd: Pennaeth Polisi (Tlodi); Arweinydd Prosiect (Mynediad at Gyfiawnder); Swyddog Cyllid; Swyddog Cyfathrebu a Marchnata
Diben y swydd
Rhoi arweiniad strategol i Sefydliad Bevan, gan hybu ei genhadaeth i roi terfyn ar dlodi ac anghydraddoldeb yng Nghymru. Bydd y Prif Swyddog Gweithredol yn gwasanaethu fel llysgennad, strategydd a chodwr arian y sefydliad, gan sicrhau ei fod yn cael effaith ym maes polisi, ei fod yn gynaliadwy o safbwynt ariannol a’i fod yn effeithiol o safbwynt gweithredol.
Y prif gyfrifoldebau
Arweiniad strategol
Arwain y gwaith o roi gweledigaeth a strategaeth dair blynedd y Sefydliad ar waith, gyda hyblygrwydd i ymateb i newidiadau gwleidyddol a chyllidol.
Darparu gweledigaeth a hybu rôl y sefydliad o ran dylanwadu ar yr agendâu polisi yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig, yn enwedig o ran tlodi, anghydraddoldeb, a chynhwysiant cymunedol.
Bod yn arweinydd syniadau ac yn arloeswr o ran hybu datrysiadau polisi i Gymru.
Sicrhau bod gan y sefydliad ôl troed Cymreig cadarn, gan fynd ati ar yr un pryd i bennu cyfleoedd i ddylanwadu ar lefel y Deyrnas Unedig lle bo’n briodol.
Ymgysylltu llysgenhadol ac allanol
Gweithredu fel prif lefarydd a llysgennad ar ran y Sefydliad, gan ymgysylltu â gwleidyddion blaenllaw, arianwyr, y cyfryngau, a’r gymdeithas sifil.
Cynrychioli’r Sefydliad yn y cyfryngau ac mewn fforymau cyhoeddus, gan gynnwys drwy gyfweliadau, digwyddiadau a thrafodaethau polisi.
Cryfhau’r cysylltiadau â Senedd Cymru, rhanddeiliaid yn San Steffan, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, arianwyr a sefydliadau sy’n bartneriaid, gan fynd ati ar yr un pryd i herio penderfynwyr a’u gwthio tuag at ein nodau a’n gwerthoedd.
Cynhyrchu incwm a chynaliadwyedd ariannol
Rhoi model ariannu cynaliadwy ar waith drwy gyfuniad o ymddiriedolaethau, sefydliadau, grantiau, ac incwm a enillir.
Arwain neu gefnogi camau i lunio cynigion ar gyfer prosiectau a cheisiadau i gael arian sy’n gydnaws â blaenoriaethau strategol.
Cadw goruchwyliaeth effeithiol ar gyllidebau, rhagolygon ariannol a thargedau incwm, gyda chymorth y swyddog cyllid.
Rheoli’r sefydliad
Arwain a chynorthwyo tîm bach sy’n perfformio at lefel uchel ac yn gweithio ledled Cymru ar hyn o bryd ar sail hybrid.
Sicrhau bod ein gwaith ymchwil ac ymholi yn bodloni safonau uchel.
Meithrin diwylliant cadarnhaol a chynhwysol yn y sefydliad, gyda lefelau uchel o ymreolaeth a chydweithredu.
Sicrhau cydymffurfiaeth lawn â’r gofynion cyfreithiol, rheoleiddio a llywodraethu, gan gynnal enw da ac uniondeb y Sefydliad.
Sicrhau bod systemau a phrosesau’n galluogi’r sefydliad i gyflawni’n effeithlon, i reoli risgiau, ac i gydymffurfio.
Llywodraethu a chydweithio â’r Bwrdd
Cydweithio’n agos â’r Cadeirydd a’r Ymddiriedolwyr i sicrhau llywodraethu effeithiol.
Cefnogi camau i feithrin gallu’r Bwrdd, a chefnogi gwaith cynllunio ar gyfer olyniaeth o ran arweinyddiaeth y Bwrdd yn y dyfodol.
Rhoi gwybod i’r Bwrdd am berfformiad, risgiau, a chynnydd tuag at wireddu amcanion strategol.
Manyleb y person
Profiad a gwybodaeth hanfodol
Profiad o fod yn uwch-reolwr, yn ddelfrydol mewn amgylchedd polisi, ymchwil, ymgyrchu, neu felin drafod.
Dealltwriaeth ddofn o dirwedd wleidyddol a chymdeithasol Cymru.
Llwyddiant blaenorol o ran dylanwadu ar benderfynwyr a siapio polisïau cyhoeddus.
Proffil cyhoeddus cadarn neu brofiad amlwg o fod yn llefarydd gweladwy a chredadwy.
Profiad o godi arian gan ymddiriedolaethau, sefydliadau, neu gyrff statudol.
Profiad o arwain timau bach, ac yn ddelfrydol dimau bach â phatrymau gweithio hybrid neu wasgaredig.
Profiad dymunol
Bod yn gyfarwydd â pholisïau datganoledig a materion cyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig.
Hyfedredd yn y Gymraeg (dymunol, heb fod yn hanfodol).
Profiad o weithio gyda sefydliadau sy’n cael eu harwain gan brofiad bywyd neu sefydliadau llawr gwlad.
Priodoleddau a gwerthoedd
Meddyliwr strategol ac arloeswr polisi sy’n gallu gweld tueddiadau a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg.
Ymrwymiad amlwg i gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb yn unol â chenhadaeth graidd y Sefydliad.
Arweinydd cydweithredol ac emosiynol ddeallus.
Gallu llywio’ch ffordd yn hyderus drwy gymhlethdod ac ansicrwydd.
Dull entrepreneuraidd o fynd i’r afael â chyllid, partneriaethau a chyfathrebu.
Y prif gymwyseddau
Gweledigaeth strategol - Gallu llunio a gweithredu agenda strategol sy’n gydnaws â’r genhadaeth a’r amgylchedd cyllidol.
Dylanwad polisi - Gallu ymgysylltu’n hyderus â rhanddeiliaid gwleidyddol ar lefel uwch, a hynny ar sail tystiolaeth ond mewn ffordd sy’n darbwyllo.
Codi arian - Gallu a brofwyd i sicrhau incwm ac i reoli cysylltiadau ariannu amlflwyddyn.
Arweiniad cyhoeddus - Cyfathrebwr medrus ar draws y cyfryngau, ar baneli, ac ar lwyfannau uchel eu proffil.
Arwain timau - Adeiladu timau cynhwysol a brwdfrydig sy’n perfformio at safon uchel.
Sensitifrwydd diwylliannol - Deall a pharchu hunaniaeth Gymreig, y Gymraeg, a llywodraethu datganoledig Cymru.
Ymwybyddiaeth o risg - Rheoli risgiau sefydliadol, dyletswyddau cyfreithiol a materion sy’n gysylltiedig ag enw da yn effeithiol.
Craffter ariannol - Deall cyllidebau, cylchoedd ariannu, a rheoli adnoddau.
Gweithredu ar sail gwerthoedd - Ymgorffori ac arddel gwerthoedd uniondeb, tegwch, cydraddoldeb ac annibyniaeth.