Prospectus Executive Search

Croeso

Diolch yn fawr am fynegi diddordeb yn swydd Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Bevan. Rwy’n credu bod hwn yn gyfle arbennig i ddylanwadu ar fywydau pobl ledled Cymru, a hynny ar adeg hollbwysig yn hanes y genedl.

Crëwyd Sefydliad Bevan oherwydd y pwerau ychwanegol a ddaeth yn sgil datganoli chwarter canrif yn ôl. Crëodd y Cynulliad, a’r Senedd yn ddiweddarach, gyfle i fynd i’r afael â’r anfanteision y mae llawer o gymunedau Cymru’n eu hwynebu.

Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, nid oes digon wedi newid, ac rydym yn dal i lusgo ar ein holau mewn llawer o feysydd. Mae tlodi a thlodi plant yn syfrdanol o uchel. Mae angen Prif Swyddog Gweithredol arnom sy’n benderfynol o newid hyn, nid dim ond drwy ddicter ond hefyd drwy atebion. Rhaid i’r polisïau yr ydym yn eu llunio ac yn ymgyrchu drostynt ddarparu datrysiadau y gellir eu rhoi ar waith.

Mae hon yn adeg o newid yng Nghymru. Y flwyddyn nesaf, cynhelir etholiadau pwysig y Senedd, ac mae’n ymddangos eu bod wirioneddol yn y fantol. Nid yw’r Sefydliad yn blaid wleidyddol. Rhaid i’n Prif Swyddog Gweithredol fod yn barod i gydweithio â gwleidyddion o bob plaid, eu herio a dylanwadu arnynt, a rhaid bod modd iddo/iddi wneud hynny. Rhaid i’r Prif Swyddog Gweithredol hefyd allu darbwyllo gwleidyddion o’r camau y mae angen eu cymryd i greu Cymru sy’n decach, yn fwy ffyniannus ac yn gynaliadwy.

Mae hon yn adeg wych i ymuno â’r Sefydliad. Yn sgil gwaith rhagorol ein staff a’r cyfarwyddwr sy’n ymadael, mae gennym sylfaen gadarn, gyda mwy o arian amlflwyddyn yn ei le. Mae’r tîm wedi tyfu, gan roi cyfle inni wneud mwy nag erioed o’r blaen. Mae gennym hanes blaenorol o gyflawni ac o ddylanwadu. O brydau ysgol am ddim i gynyddu’r lwfans cynhaliaeth addysg, rydym wedi llunio polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i wella bywydau pobl ledled Cymru.

Bydd heriau i’w hwynebu. Fel Prif Swyddog Gweithredol, byddwch yn arwain tîm gwasgaredig, gyda chymysgedd o drefniadau gweithio yn y swyddfa a gweithio o bell. Rydym yn elusen fach sy’n cael effaith fawr, ac mae angen i’r Prif Swyddog Gweithredol allu torchi llewys a chamu yn ôl i weld y darlun mawr. Mae ein cyfarwyddwr sy’n ymddeol wedi arwain yr elusen am 23 mlynedd, ac mae’n gadael bwlch mawr ar ei hôl.

Serch hynny, ni allwn feddwl am rôl fwy cyffrous i’r unigolyn iawn yng Nghymru heddiw. Fel Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Bevan, byddwch yn dylanwadu ar y pleidiau yn ystod y cyfnod a fydd yn arwain at etholiad 2026, ac ar y llywodraeth a ddaw yn ei sgil. Byddwch yn arwain tîm o bobl ddisglair a dawnus sy’n gweithio’n galed, a byddwch yn eu cynorthwyo i wireddu newid sy’n codi pobl allan o dlodi ac anghyfiawnder cymdeithasol. Os ydych yn barod i fynd i’r afael â’r holl dasgau hyn, byddem wrth ein bodd o glywed gennych.

 

Gavin Thompson

Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr