Prospectus Executive Search

Amdanom ni

Mae Sefydliad Bevan yn elusen gofrestredig ac yn felin drafod annibynnol, a’i nod yw creu Cymru deg, ffyniannus, a chynaliadwy. Mae’n rhoi gwybod i bobl am yr heriau cymdeithasol ac economaidd mwyaf dybryd y mae Cymru’n eu hwynebu ac yn llunio syniadau ymarferol i’w datrys. Ac yntau wedi’i enwi ar ôl Aneurin Bevan – pensaer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a ffigur amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru – mae ei waddol o wireddu newid cymdeithasol yn ysbrydoli’r Sefydliad, tra mae’n parhau i fod yn gadarn o niwtral o safbwynt gwleidyddol.

Wedi’i sefydlu yn 2001 gan grŵp bach a oedd yn ceisio cryfhau polisi cyhoeddus yn sgil datganoli yng Nghymru, mae’r Sefydliad yn credu bod pawb yng Nghymru yn haeddu cyfle i fyw bywyd da, heb galedi, ac i gael mynediad at y cymorth a’r gwasanaethau y mae eu hangen arnynt i ffynnu. Mae ei waith yn rhychwantu amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys anghydraddoldeb incwm, tai, addysg, mynediad at gyfiawnder, mudo, ac economi Cymru – a’r cyfan wedi’i ategu gan ffocws ar gynhwysiant, effaith, a thystiolaeth.

Fel sefydliad annibynnol o safbwynt gwleidyddol, mae Sefydliad Bevan yn ymgysylltu â phobl ar draws y sbectrwm gwleidyddol, gan fynd ati i ddylanwadu ar y llywodraeth, ar y gymdeithas sifil, ac ar ddadleuon cyhoeddus.  Mae’n gwireddu newid drwy gyfuniad o waith ymchwil o ansawdd uchel, gwaith llunio polisïau cadarn, cyfathrebu strategol, a chysylltiadau â phenderfynwyr sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth.

Mae ymarferwyr yn parchu’r Sefydliad, mae llunwyr polisïau yn ymddiried ynddo, ac mae’r cymunedau y mae’n helpu i roi mwy o lais iddynt yn rhoi gwerth arno. Mae ei werthoedd craidd – bod yn sefydliad sy’n annibynnol, yn wybodus, yn ysbrydoli ac yn gynhwysol – yn treiddio drwy ei holl waith. Drwy hyn, mae Sefydliad Bevan wedi ennill ei blwyf fel arweinydd syniadau ac arloeswr polisi.

Mae effaith Sefydliad Bevan yn weladwy. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Sefydliad wedi tanio camau i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd drwy brofi bod y polisi’n fforddiadwy, ac wedi sbarduno cynnydd o £10 yr wythnos i’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, ymhlith pethau eraill. Ymhlith yr uchafbwyntiau o’i adroddiad blynyddol yn 2023–24 mae:

  • Sicrhau £4,000 o gymorth ychwanegol y flwyddyn i aelwydydd cymwys drwy system fudd-daliadau arfaethedig i Gymru.

  • Cefnogi dros 230,000 o daliadau brys i bobl sy’n wynebu argyfwng ariannol difrifol drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol.

  • Cynorthwyo 82,500 o aelwydydd i gael mwy o gymorth â’u rhent drwy newidiadau i’r Lwfans Tai Lleol.

  • Eirioli dros 591 o blant digwmni a oedd yn ceisio noddfa er mwyn iddynt elwa ar wasanaeth gwarcheidiaeth annibynnol.

Mae Sefydliad Bevan yn parhau i fod yn rym pwerus dros degwch a thros Gymru fwy cyfartal.


Cyllid

Cynyddodd incwm Sefydliad Bevan yn 2023/24 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gan gyrraedd £434,000, gyda chyfanswm gwariant o £407,825. Yn ogystal, bu iddo ddwyn £317,575 ymlaen o flwyddyn ariannol 2022/23, sef incwm grant a ddaeth i law yn gynnar yn bennaf. Cynyddodd ei incwm i fwy na £600,000 yn 2024/25. Mae’r rhan fwyaf o arian y Sefydliad yn dod i law gan ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol. Ymhlith y prif arianwyr mae Sefydliad Joseph Rowntree, Justice Together, a Sefydliad Banc Lloyds ar gyfer Cymru a Lloegr.  Mae’r Sefydliad hefyd yn cynhyrchu incwm drwy roddion, tanysgrifiadau, a gwasanaethau hyfforddiant ac ymchwil.


Polisi Cyfleon Cyfartal

Mae Sefydliad Bevan wedi ymrwymo i greu Cymru decach lle y mae pawb yn cael cyfle i ffynnu, ni waeth beth fo’u cefndir, eu hunaniaeth na’u hamgylchiadau. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog, nid yn unig i ddiwylliant mewnol y Sefydliad, ond hefyd i’w ymchwil, ei bartneriaethau, a’i ddylanwad ar fywyd cyhoeddus.

Mae’r Sefydliad yn cydnabod amrywiaeth Cymru ac yn gweithio i sicrhau bod pob agwedd ar ei waith yn rhoi sylw i’r amrywiaeth honno a’i pharchu. Mae’r ymrwymiad hwn yn cwmpasu polisïau recriwtio Sefydliad Bevan, ac mae’n mynd ati i annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir, gan gynnwys y rheini nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol yn y gweithlu. Mae’r Sefydliad wedi ymrwymo i greu proses recriwtio gynhwysol lle y mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu parchu, a’u grymuso i ffynnu. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae Sefydliad Bevan yn fodlon gwneud unrhyw addasiadau rhesymol i sicrhau y gall pob ymgeisydd gymryd rhan lawn yn y broses o wneud cais a’r broses gyf-weld.

Darllen Pellach