Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd, gofynnir ichi lanlwytho eich CV, ynghyd â datganiad ategol (hyd at 1000 o eiriau), ar wefan Prospectus drwy’r ddolen isod.
I gael arweiniad o ran sut i lunio’ch datganiad ategol, darllenwch ein canllaw yma.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhoi rhif ffôn, a’ch bod wedi rhestru unrhyw ddyddiadau pan na fyddwch ar gael neu unrhyw ddyddiadau yn yr amserlen recriwtio a allai beri anhawster ichi.
Os hoffech wneud cais gan ddefnyddio fformat amgen, cysylltwch â Prospectus drwy ffonio 020 7691 1920 neu drwy anfon e-bost at executive.admin@prospect-us.co.uk
I wneud cais drwy wefan Prospectus, ewch i:
https://www.prospect-us.co.uk/job/191667-chief-executive-officer/
Yn Prospectus, rydym yn credu’n angerddol bod creu gweithle gwirioneddol gynhwysol yn arwain at gael mwy o effaith gymdeithasol. Rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo ein cleientiaid i greu timau mwy cynhwysol. Er mwyn inni ddeall sut yr ydym yn perfformio, gofynnwn yn garedig ichi gwblhau’r holiadur cyfle cyfartal cryno pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais drwy ein gwefan. Gallwn eich sicrhau y bydd eich ymatebion yn cael eu cadw’n gyfrinachol, ar wahân i’ch cofnod fel ymgeisydd, na fyddant yn rhan o unrhyw gais a wneir gennych, ac nad yw’r ymgynghorwyr fyth yn gweld unrhyw ymatebion unigol i’r holiadur.
Amserlen recriwtio
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: 9 Mehefin
Cyfweliadau â Prospectus: 16-18 Mehefin
Cyfweliadau cyntaf â Sefydliad Bevan: 1 Gorffennaf
Ymholiadau
Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y cyfle hwn, cysylltwch â’n cynghorwyr wrth gefn, Linda Griffiths neu Rhys Barber, yn Prospectus drwy ffonio 020 7691 1920, neu drwy anfon e-bost at: